Dros Gymru, Gan Gymru

Fe ddaethom at ein gilydd i greu trafodaeth ffyrnig ynglŷn â dyfodol Cymru. Mae’r ugain mlynedd o ddatganoli a aeth heibio wedi bod yn dyst i lwyddiannau gwirioneddol ond cafwyd rhai heriau sylweddol hefyd – colli gwytnwch ein cymdeithas a’n hamgylchedd, y chwalfa ariannol a’r ddegawd hir o lymder. Nawr mae pandemig yn ysgwyd y genedl ac fe gafodd argyfwng hinsawdd ei ddatgan. Yn wir, gall Cymru ei hun fod yn wynebu argyfwng dirfodol.. 

Mae angen dull llawer mwy radical os yw pobl a chymunedau Cymru am ffynnu yn y dyfodol. Rydym am i’r drafodaeth hon ganolbwyntio ar bobl, ar angen ac ar ddatrysiadau mwy dychmygus a radicalaidd. Bydd canlyniadau ariannol y fath newid cyfeiriad yn sylweddol a dyw’r rhain ddim yn cael eu hanwybyddu. Dylid eu craffu gyda’r un ffyrnigrwydd. Ond dydyn ni ddim am i gynffon arian siglo ci angen; gorchymyn dynol yw datrys hwn. Mae’n glir fod yna ddigon o awydd a brwdfrydedd i herio hen drefn y sefyllfa bresennol sydd wedi methu, sydd yn gadael cynifer o’n pobl a’n cymunedau ar ôl. Gofynna hyn am ail-osod y modd y byddwn yn meddwl am yr economi, trethiant, ail-ddosbarthu a chydraddoldeb yng Nghymru yn sylfaenol. Dyma ddadl hir-ddisgwyliedig a ddylid fod wedi ei gynnal ers amser maith.

Daw awduron y darn yma o waith sbarduno’r meddwl o wahanol gefndiroedd ac mae ganddyn nhw wahanol ymlyniadau gwleidyddol neu ddim o gwbl. Does dim diddordeb gyda ni mewn hyrwyddo plaid wleidyddol na rhoi bai am fethiannau blaenorol. Mae’n bryd i symud ymlaen tuag at feddwl a gweithredu tu allan i ffyrdd arferol partisan o weithio a thuag at y broses o adeiladu Cymru well. Golyga hyn fod angen symud o gyfyngiadau Cymru sydd ddim yn disgwyl amdanom ar ochr arall y pandemig yma. Mae gofyn am ‘ail-osod mawr’ yn strategaeth a chenhadaeth genedlaethol Cymru. I fod yn llwyddiannus, rhaid i hyn fynd law yn llaw gyda gweithredu ar bob lefel – yn genedlaethol, rhanbarthol ac yn lleol. Mae’n hawdd o hyd i gwyno am elit breintiedig yng Nghymru ond dyma gyfle i bawb gael ymuno.

Ar y Groesffordd

Daeth yr argyfwng yma â’r gorau allan ohonom- cymuned, cydsafiad, gwasanaeth cyhoeddus. Mae hefyd wedi dod â gwendidau gwleidyddol ac economaidd yn dilyn datganoli i’r amlwg. Mae democratiaeth ifanc Cymru yn wynebu ei her fwyaf eto. Trychineb fu pandemig y Cornafirws. Bu farw llawer a rhoddwyd y GIG, llywodraeth leol, y drydedd sector a gwasanaethau eraill o dan straen annioddefol. Mae nifer o fusnesau yn ei chael hi’n anodd goroesi ac mae miloedd o bobl wedi ei rhoi ar ffyrlo. Mae undebau llafur wedi gweithio’n ddiflino i drefnu mesurau er mwyn cadw gweithwyr yn ddiogel, er mwyn gwarchod eu swyddi a’u hincwm.

Ar yr un pryd mae bwlch anghydraddoldeb yn lledaenu ac fel y gwelwyd gan lifogydd 2020 ar draws Cymru, mae peryglon newid hinsawdd yn tyfu’n esbonyddol. Mae argyfwng economaidd anferth ar y gorwel ynghyd â bwgan diweithdra torfol. Bydd yr effeithiau tebygol ar bobl ifanc ar draws Cymru yn peri digalondid ar lefel cymdeithasol, economaidd a meddyliol. Mae firws mwy atgas a niweidiol hiliaeth strwythuredig eto wedi dod i’r amlwg a nawr yw’r amser am weithredu yn hytrach nac am eiriau. Efallai y daw bwlch o gyfle, synnwyr o’r hyn sy’n bosib, allan o’r trychineb yma. Ond gallai’;r bwlch yma gau yn gyflym. Mae’n hanfodol i ailfeddwl siâp ein cymdeithas, economi a’n ffurflywodraeth. Mae angen ailosod er mwyn cydnabod pwysigrwydd ein cyfalaf cymdeithasol a dyhead pobl i ymgysylltu.

Pennwyd 10 blaenoriaeth ar gyfer eu gweithredu yr ydym o’r farn y dylent fod yn sylfeini ar gyfer symud ymlaen a sicrhau dyfodol diogel ar gyfer ein cymunedau. Gwyddom fod yna fylchau anferth yn hyr hyn sydd yn dilyn. Dyma fan cychwyn yn unig sydd yn cydnabod bydd graddfa’r hyn sydd yn digwydd nawr yn trawsffurfio popeth. O ystyried hynny, gwnewch gyda hwn fel y dymunwch, addaswch neu (gobeithiwn) ei wella, ond ystyriwch ef o leiaf a chymerwch ran. Cofiwch, fod yn adeiladol, i ddangos parch ac yn garedig neu fel arall rydym yn rhan o’r broblem.

1. Ymbenderfyniad Newydd

Dylai Cymru wrthod ag economeg “cael y clod, y mawl, y parch a’r bri” – dydy lefelau Sgandinafia o wasanaethau cyhoeddus wedi eu talu gan gyfraddau’r UDA o drethiant ddim yn fodel cynaliadwy. Rhaid i ni fynd i’r afael â’r gwahaniaeth mewn incwm a chyfoeth sydd ar dwf,  drwy ddefnyddio’r pwerau sydd gennym yn fwy clyfar – fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae angen i ni baratoi am y bedwerydd chwyldro diwydiannol a chyflymiad cyflym Dealltwriaeth Artiffisial a roboteg. Mae angen i Gymru greu gwladwriaeth gymdeithasol a all ymdrin â newidiadau dwfn poblogaeth sydd yn heneiddio, mewnfudo a’r economi gig. 

Tri Syniad:

● Cyflwyno incwm sylfaenol cynhwysol (ISC) er mwyn lleddfu ansicrwydd economaidd a chymdeithasu costau awtomeiddio.

● Creu cytundeb cymdeithasol newydd gyda phobl Cymru sydd yn ail-ddylunio ac ailddiffinio nod ac amcanion busnes a gwaith ar gyfer adfywio.

● Adeiladu ar ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn creu rhestr fwyaf defnyddiol y byd o arfau a thechnegau sydd yn gweithio mewn mannau eraill i gyflenwi trawsffurfiad.

2. Adeiladu’r Economi Sylfaenol

Mae angen i Gymru symud tu hwnt i’r ffocws ar gynyddu twf mewn canolfannau trefol a thrwy fuddsoddiad mewnol. Bydd nifer fawr o fusnesau bach a chanolig eu maint a rhai cymdeithasol yn ei chael hi’n anodd goroesi yn ystod yr argyfwng yma. Mae angen i ni weithio gyda phobl yng Nghymru er mwyn creu busnesau cydweithredol a rhwydweithiau sydd yn tyfu economi ffyniannus a theg. Dylai datblygu’r economi sylfaenol fod yn brif yrrwr ein polisi ar gyfer tymor nesaf Senedd Cymru. Mae effaith Covid 19 wedi gweld swyddfeydd ac adeiladau cyhoeddus yn troi mewn i amgueddfeydd. Golyga’r dyfodol weithio’n ddigidol a gweithio llai hefyd. 

Tri Syniad: 

● Cefnogi wythnos waith pedwar dydd yr wythnos er mwyn gwella cynhyrchedd, lles a chyfeirio at y broblem enfawr o orweithio sydd yn treiddio drwy ein diwylliant.

● Mynd tu hwnt i gytundebau-dinesig a modelau buddsoddi cydgasglol a symud tuag at ffurf o gynllunio economaidd mwy seiliedig ar ddosbarthu gofodol.

● Datblygu Bargen Newydd Werdd i Gymru yn seiliedig ar ddaliad twf gwahaniaethol fydd yn gweld rhai sectorau’n tyfu’n gyflym tra’n gweld rhai eraill yn crebachu a chau, gyda’r nod o greu economi net di-garbon yng Nghymru erbyn 2030. 

3. Cenedl Ystwyth

Mae angen sefydliadau ystwyth ar Gymru. Ar hyn o bryd mae sector gyhoeddus Cymru’n suddo mewn cymhlethdod partneriaeth a biwrocratiaeth. Cafodd oes datganoli Cymru ei nodweddu’n aml gan ‘gorlwytho strategaeth” ond â llawer llai o ffocws ar ddeilliannau a chyflenwi. Mae angen newid sylfaenol mewn gwasanaethau cyhoeddus os yw Cymru am gyflawni a chynnal ymrwymiad i degwch. Mae angen cydraddoldeb mewn parch sydd yn gwerthfawrogi gwasanaethau ataliol fel gofal cymdeithasol, tai, hamdden & llyfrgelloedd cymaint â’r GIG. Mae angen i gymunedau a busnesau i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am ymddygiadau lles, wedi eu cefnogi gan ariannu refeniw.

Tri Syniad: 

● Dylai Cymru arwain ar greu Gwasanaeth Gofal Gwladol (GGG), sy’n cael ei gyflenwi’n lleol ac sydd yn ymestyn egwyddor y GIG o fod ar gael i bawb am ddim i ofal cymdeithasol.

● Dylai cyrff sector cyhoeddus newid eu modelau gweithredu er mwyn addasu i’r model newydd ôl-Covid 19. Dylid ystyried pob opsiwn o byrth cymorth cymunedol lleol i gydsoddiadau.

● Rhaid i’r trên datganoli adael “Gorsaf Caerdydd”. Dylai Llywodraeth fod o’r gwaelod i lawr drwy sicrhau bod polisïau radicalaidd ac sydd wedi eu hadnoddi yn weithredol, ond hefyd o’r gwaelod i fyny, drwy adael fynd, hybu arloesedd a chyflenwi lleol ar draws Gogledd, Canolbarth, Gorllewin a De Cymru. 

4. Llais Mwy Hyderus

Yn aml, bydd llais cyfunol Cymru yn cael ei roi ar y cyrion a heb ei glywed o fewn gwladwriaeth gamweithredol Brydeinig sydd yn ymddangos fel ei fod wedi torri ac sydd angen adnewyddu llwyr. Nid yw Cymru’n fodlon mwyach i fod yn berthynas tlawd i’r cenhedloedd eraill. Mae Cymru’n wlad sydd yn gorlifo â thalent ddylai fod yn fywiog, yn wynebu allan ac yn ddyfeisgar; mae ein gwerthoedd yn rhai cymunedol a chydraddol. Yn y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflenwi orau o fewn fframwaith democrataidd o atebolrwydd lle bydd gan bobl sydd yn talu ac yn defnyddio gwasanaethau lais go iawn wrth lunio’r modd y cânt eu cyflenwi. Dylai Cymru amlygu buddsoddiad a wastraffwyd mewn rhannau eraill o Brydain fel HS2 ac amlygu’r anghyfartaledd anferth sydd yn bodoli o fewn y Deyrnas Gyfunol sydd yn perthyn yn gryf i’r system o lywodraethau cenedlaethol gor-ganolog.

Tri Syniad: 

● Lansio Sgwrs Genedlaethol sydd yn gwahodd pobl o Gymru i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’u dyfodol, p’un a yw hynny’n devo-max, ffederaliaeth neu annibyniaeth. 

● Gwthio am i Gymru gael mwy o hyblygrwydd i reoli ei chyllid. Yn enwedig y gallu i fenthyg ar gyfer gwariant bob dydd er mwyn rhoi arf pwysig i Lywodraeth Cymru allu brwydro yn erbyn effaith economaidd y pandemig. 

● Cefnogi ymgyrch genedlaethol yn erbyn Brexit heb gytundeb, fyddai’n peri aflonyddu anferth ar fusnesau, gweithwyr a ffermwyr ac a fyddai’n gwneud niwed economaidd anferth i economi sydd eisoes yn fregus. 

5. Ail-ddiffinio Gwerth

Anaml iawn bydd y pris isaf mewn buddsoddiad cyhoeddus yn golygu’r gwerth gorau. Mae’n gyrru cyflogau i lawr, yn cyfaddawdu ar ansawdd ac mewn achosion eithafol fel Tŵr Grenfell, ceir deilliannau trychinebus. Mae angen i ni ail-ddiffinio gwerth yn ddiamwys yn nhermau hirach, mwy cynaliadwy o fewn fframwaith y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae angen i hyn gael ei ymgorffori yn y ddeddfwriaeth, rheoleiddio a meini prawf ariannu, wedi ei gefnogi gan gymhelliannau a chosbau y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol. Ar ôl Brexit, mae’n debygol bydd gan Lywodraethau datganoledig mwy o ryddid i osod eu hamcanion polisïau eu hunain ar gyfer caffael. Rhaid i fudd cymunedol a chyflogaeth leol fod yn flaenllaw. 

Tri Syniad: 

● Dylai dileu tlodi cymharol drwy ganolbwyntio ar greu cymunedau ffyniannus fod yn nod polisi gor-redol Llywodraeth Cymru, yn enwedig, difa digartrefedd ar draws Cymru ôl-argyfwng o fewn dwy flynedd.

● Erbyn 2030, ni ddylai unrhyw fod yn ddigartref; llai nac un ymhob deg o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi ar unrhyw adeg; a neb mewn tlodi am fwy na dwy flynedd.

● Cael gwared ar fesuriad Gwerth Ychwanegol Gros ac yn ei le cael lles fel y dangosydd sydd yn ein llywio wrth osod cyllidebau ac asesu polisi llywodraeth. Defnyddio metrigau newydd i fesur anghydraddoldeb, ansicrwydd economaidd, p’un a yw’r twf yn amgylcheddol gynaliadwy, a chreu mynegai bywyd gwell.

6. Democratiaeth Gymreig Newydd

Prif amddiffynfeydd democratiaeth yw trafodaeth a dadl frwd, yn enwedig mewn gwlad sydd wedi ei ddominyddu gan un blaid. Ni ddylai Cymru fod ofn gwir graffu neu ddweud y gwir yn erbyn grym. Rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau bod lleisiau ar y cyrion yn cael eu clywed, gan gynnwys y rhai hynny sydd yn byw mewn tlodi, menywod, pobl a chanddynt anableddau a’r sawl sydd yn dod o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Dymunwn fod pob person ifanc yng Nghymru yn deall sut mae damcaniaeth ac ymarfer dinasyddiaeth weithgar yn effeithio ar eu profiadau drwy gydol eu bywydau. Dylem drin ein hiaith fel ased unigryw a gwerthfawr – un sydd yn perthyn i ni i gyd, p’un a fyddwn yn ei medru neu beidio. Dylai twf yr iaith Gymraeg fod wrth wraidd yr ailosod hwn. 

Tri Syniad: 

● Newid system bleidleisio’r Senedd i’w gwneud hi’n decach a mwy cyfrannol a chynyddu’r nifer o Aelodau Senedd o 60 i 90. 

● Amddiffyn yr iaith Gymraeg drwy system addysg a system o hawliau dynol, nid drwy osod targedau quixotaidd. Dylid cydnabod mai mesur yw hwn o allu ein cenedl i ffynnu. 

● Cael gwared ar y rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol i wir gydraddoldeb. Cyflwyno cwotâu rhagnodol ar gyfer menywod a BAME wedi eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ar gyfer y Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, ynghyd â’r cyfle i’n gwleidyddion rannu swydd. 

7. Bargen Newydd ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai

Dwy ochr o’r un geiniog yw’r GIG a gofal cymdeithasol, ond rhaid newid statws “Cinderella” gofal cymdeithasol o gymharu ag iechyd. Mae’n debygol bydd y trawma o fyw drwy bandemig a gorfod ymdopi gyda’r canlyniadau yn debygol o gael effaith sylweddol ar les pobl. Mae hefyd wedi dangos fod angen i ni ail-feddwl y rhan mae tai yn chwarae mewn iechyd cyhoeddus, ein heconomi a’n hamgylchedd. Fe ddylem wneud tai fforddiadwy gwyrdd yn un o’n nodweddion drwy gyflenwi rhaglen anferth o gartrefi cymdeithasol newydd a datgarboneiddio rhai sydd yn bodoli eisoes. 

Tri Syniad:

● Talu am gost gofalu dros hen bobl a phobl anabl yng Nghymru drwy dreth gofal cymdeithasol/ardoll yswiriant newydd.

● Ymgysylltu â phobl mewn trafodaeth genedlaethol ynglŷn â’r hyn y dymunwn ei gael ac sydd ei angen arnom o’n stoc dai nawr a datblygu Cytundeb Tai newydd sydd yn ymateb i hynny. Dylai hyn gynnwys dybli’r nifer o dai cymdeithasol fforddiadwy, gwyrdd drwy bartneriaeth llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

● Datblygu bargen newydd ar gyfer Cymru Wledig er mwyn amddiffyn cymunedau. Er enghraifft, gwahaniaethu rhwng prif gartrefi a thai haf fel dau fath gwahanol o eiddo ar gyfer dibenion cynllunio gyda rheoliadau llym ar eiddo y gellid ei werthu yn dai haf. 

8. Isadeiledd Cynaliadwy

Ymateb hwyr i fygythiad dirfodol cynyddol oedd yr Argyfwng Newid Hinsawdd, ond rhaid iddo fod yn fwy na rhethreg. Mae’r argyfwng presennol wedi cynnig ffocws ar yr hyn a allai fod ac wedi codi’r cyfle i Gymru arwain y ffordd. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael ag ansawdd aer a blaenoriaethu isadeiledd trafnidiaeth fforddiadwy a chynaliadwy gall pawb ei ddefnyddio. Ar gyfer yr economi wledig, mynd i’r afael â chyflymder cysylltedd band-eang poenus o annigonol ar draws nifer o ardaloedd cefn-gwlad yw’r flaenoriaeth. Dylid symud buddsoddiad cyhoeddus o “foduron, awyrennau a meysydd awyr” i ariannu busnesau a allai arwain at dechnolegau carbon isel ac ynni adnewyddadwy. 

Tri Syniad: 

● Cyflwyno Deddf Awyr Iach newydd i Gymru er mwyn ffrwyno pob math o lygredd awyr a chefnogi hyn gyda buddsoddiad cyfalaf anferth mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a ffyrdd cerdded a beicio. 

● Rhoi cyflwyniad anferth o baneli haul ar waith ar gyfer toeau eiddo domestig, busnes, ysgolion ac adeiladau er mwyn “heulyddio” Cymru gyfan.

● Datblygu isadeiledd budd cymunedol fel rhwydwaith newydd cenedlaethol o fannau gwefrio trydanol ar draws Cymru.

9. Stiwardiaeth o’r Amgylchedd

Mae gan Gymru gyfoeth o adnoddau naturiol, ac eto rydym yn ddibynnol iawn ar ‘ynni nad sy’n lân’. Mae ynni gwynt a haul yn dod yn rhatach o hyd ac mae gyda ni gyfle gwirioneddol i arwain y byd mewn ynni ar sail gymunedol a datgarboneiddio ein system bŵer. Dylem amddiffyn harddwch naturiol ein hamgylchedd, a chynyddu ein coetiroedd yn enfawr a chefnogi dad-ddofi tir. Golyga hyn ail-feddwl sut y byddwn yn rheoli ucheldiroedd Cymru os ydym am gynnal ffermio ac adfer natur i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol. Mae deialog rhwng ffermwyr a chadwraethwyr, gwneuthurwyr polisi a ffermwyr yn hanfodol tuag at ddod o hyd i gyfaddawd. Dylem greu cadwyn fwyd mwy lleol a chynaliadwy, gan wobrwyo cynhyrchwyr bychain a’u gwneud yn llawer mwy gwydn.

Tri Syniad:

● Clustnodi £1 biliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ail-flaenoriaethu neu ailddyrannu, fel bo’r angen, adnoddau cyhoeddus prin er mwyn cyflawni datblygiad cenedlaethol mwy cydnaws â’r hinsawdd. 

● Cynyddu creu coetiroedd a thwf coed yn esbonyddol yng Nghymru i 12,300 erw (5,000 hectar) y flwyddyn. 

● Creu Gwasanaeth Bwyd Cenedlaethol Cymreig sydd yn anelu at ddifa ansicrwydd bwyd a mynd i’r afael â materion ynysu cymdeithasol a gwastraff bwyd sydd yn gysylltiedig. 

10. Addysg a Medrau

Dylai cwricwlwm addysg newydd ar y gorwel roi synnwyr i ni o’r potensial sydd yn bodoli i addysg fod yn un o’r prif gerbydau ar gyfer newid cenedliadol. Mae ysgolion yn parhau i fod yn safleoedd lle gall newid radicalaidd cenedliadol wreiddio orau ac mae addysg blynyddoedd cynnar yn cynnig y cyfle gorau a mwyaf sylfaenol i greu seiliau ar gyfer cydraddoldeb a mynd i’r afael gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nawr, yn fwy nac erioed, fe ddylai iechyd a lles, llythrennedd corfforol, datblygiad personol a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd galwedigaethol fod wrth galon ein system addysg. 

Tri Syniad

● Cyflwyno ardoll wedi’i neilltuo ar gyfer addysg, fyddai’n codi proffil a statws ein hathrawon. Cynnig Datblygu Proffesiynol Parhaus gwirioneddol iddyn nhw a chynnig addysg gydol oes ac uwchsgilio i’r sawl sydd eisoes yn y proffesiwn ochr yn ochr â chymhellion mawr i newydd ddyfodiaid. 

● Datblygu cymwysterau newydd mwy ansoddol ac amrywiol sydd yn gymwys ar gyfer yr oes ddigidol ac addo na chaiff unrhyw blentyn Cymreig ei eithrio o lwybr dysgu sydd yn cynnwys llythrennedd digidol a’r gallu i ymaflyd yn hyderus gyda heriau’r byd real. 

● Dylai addysg gynradd yng Nghymru fod yn wirioneddol ddwyieithog er mwyn i bob plentyn fedru deall a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn eu bod yn un ar ddeg oed.

Fel sail i’r drafodaeth, mae’r deg ar hugain o syniadau hyn yn dangos pa mor eithriadol yw’r cyfle i Gymru gael ei ail-osod, er mwyn creu gwell dyfodol i bawb. Bwriad y syniadau hyn yw bod yn fan cychwyn ar gyfer cynnal trafodaethau fydd yn arwain at ddatblygiad argymhellion y gellir eu gweithredu er mwyn trawsffurfio ein cenedl. Dyma wahoddiad i chithau i ddod yn rhan o’r drafodaeth ffyrnig hon.


This is a companion discussion topic for the original entry at https://resetcymru.wordpress.com/2020/06/08/dros-gymru-gan-gymru/